Y prosiect

Mae buddiannau ac anghenion cymunedau Cymru wrth wraidd Trydan Gwyrdd Cymru.

Cymdeithasol ac economaidd

Gan weithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, (sy'n rheoli Coedwig Clocaenog ar ran Llywodraeth Cymru), tirfeddianwyr a chymunedau lleol, Cyngor Sir Dinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a rhanddeiliaid lleol eraill; byddwn yn archwilio cyfleoedd i wireddu manteision economaidd-gymdeithasol hirdymor i gymunedau lleol. Gan mai Llywodraeth Cymru yw perchennog Trydan, bydd Cymru gyfan â’i phobl yn elwa’n llwyr trwy gydol cyfnodau datblygu, adeiladu a gweithredu’r prosiect.

Amgylchedd

Yn ogystal â chyfrannu at nod sero net Cymru ar gyfer 2050, mae gan Fferm Wynt Clocaenog Dau y potensial i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol. Bydd y mathau o fuddion amgylcheddol y byddwn yn chwilio amdanynt yn amrywio o gyfleoedd i wella rhai cynefinoedd lleol i wella amodau ar gyfer rhywogaethau allweddol.

Mae asesu effeithiau amgylcheddol posibl yn rhan allweddol o'r broses gynllunio. Rydym wedi dechrau ein hasesiadau ac arolygon a fydd yn edrych ar yr effeithiau posibl canlynol y gallai'r datblygiad eu cael ar:

  • Y tirwedd a'r effaith weledol
  • Ecoleg
  • Adareg
  • Sŵn
  • Hydroleg
  • Priddoedd a mawn
  • Trafnidiaeth a mynediad

Rydym wedi dechrau cynnal asesiadau ac arolygon ledled y safle. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am ein canfyddiadau cychwynnol yn ddiweddarach eleni pan fyddwn yn cynnal yr ymgynghoriad anffurfiol ar ein cynlluniau.

Y broses gynllunio

Eleni, bydd Deddf newydd Seilwaith Cymru yn cael ei gweithredu. Fel prosiect sy'n cynhyrchu ynni adnewyddol sydd â chapasiti o dros 50 MW, diffinnir Fferm Wynt Clocaenog Dau yn y Ddeddf fel Prosiect Seilwaith Sylweddol (PSS). Bydd Trydan yn gwneud cais i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC), adran o Lywodraeth Cymru, am Ganiatâd Seilwaith (CS) ar gyfer Fferm Wynt Clocaenog Dau.

Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol lle byddwn yn cyflwyno ein cais cynllunio drafft llawn i drigolion a rhanddeiliaid roi adborth arno.

Bydd Arolygydd Cynllunio annibynnol yn archwilio'r cais ac yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ai peidio. Gweinidogion Cymru fydd â’r gair olaf ar y cynllun.

Mae'r broses archwilio ar y cynlluniau yn destun craffu llawn, felly bydd caniatâd cynllunio yn sicrhau bod y dyluniad yn cydymffurfio ag ystyriaethau cynllunio perthnasol. Bydd amodau cynllunio yn cael eu gosod a'u gweithredu gan sicrhau bod adeiladu, rhedeg y cynllun a dadgomisiynu yn bodloni’r safonau perthnasol.

Mae'n ofynnol i Trydan gadw at yr holl reolau cynllunio llym y mae'n rhaid i ddatblygwyr preifat eu bodloni, ac rydym yn cael ein dal i'r un safonau.

Mae gwaith Trydan yn cael ei oruchwylio gan Aelod Cabinet Llywodraeth Cymru sy'n diffinio ein cylch gwaith, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn goruchwylio ein gweithgareddau. Bydd Aelod Cabinet gwahanol yn gyfrifol am benderfynu a yw ein prosiectau'n derbyn caniatâd cynllunio ai peidio.