Sut i gymryd rhan

Rydym yng nghyfnodau cynnar iawn datblygu ein cynnig ar gyfer datblygu Fferm Wynt Clocaenog Dau. Rydym yn cynnal ein hymgynghoriad anffurfiol cyntaf, lle bydd gwybodaeth fanylach am ein cynlluniau a'n harolygon ar gael. Mae digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb a digidol yn digwydd, a chyfle i chi gyfarfod â’r tîm prosiect.

Byddwn ar hyd a lled y gymuned yn cyfarfod â phobl leol ac yn mynychu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o'r prosiect a chlywed gan bobl sut y gallwn wneud hwn y cynnyrch gorau posib i’r ardal ac i Gymru.

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio am ganiatâd statudol lle byddwn yn cyflwyno ein cais drafft cynllunio llawn fydd yn rhoi’r cyfle i aelodau'r cyhoedd a chyrff a sefydliadau statudol roi adborth.

Cyflwynwch eich adborth

Hoffem glywed eich barn a derbyn eich sylwadau am gynullun arfaethedig fferm wynt Clogaenog Dau.

Ffurflen adborth

Tanysgrifiwch i gylchlythyr Clocaenog Dau

Cofrestrwch i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect gan y tîm

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

Rydym ni eisiau clywed wrthoch chi

Rydym yn croesawu adborth a chwestiynau unrhyw bryd, felly cysylltwch â thîm y prosiect os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Cysylltwch â ni