Cyfle i’r cyhoedd leisio barn am gynllun fferm wynt

Cyhoeddwyd 03/10/2025   |   Diweddaru Diwethaf 22/10/2025

Mae cymunedau’n cael eu hannog i ddweud eu barn am gynllun arfaethedig fferm wynt Clocaenog Dau.

Gallai’r datblygiad gynnwys hyd at 22 o dyrbinau gwynt a chynhyrchu 132 MW o drydan glân – cyfwerth ag anghenion blynyddol hyd at 117,500 o dai nodweddiadol yng Nghymru.

Y datblygwr yw Trydan Gwyrdd Cymru, cwmni o dan berchnogaeth gyhoeddus, a eglurodd fod y safle arfaethedig tua 8km i’r de orllewin o Rhuthun yng nghoedwig 6,000 hectar Clocaenog – gyda rhan o’r fferm wynt yn Sir Ddinbych a rhan ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

Mae’r datblygiad yn rhan o ddymuniad cwmni Trydan i gynhyrchu hyd at 1GW o drydan adnewyddadwy erbyn 2040 – digon i bweru bron i chwarter cartrefi’r wlad bob blwyddyn. 

Er mwyn cyrraedd y nod, mae Trydan  hefyd yn cynnig adeiladu dwy fferm wynt arall yng Nghymru, sef Glyn Cothi yng Nghoedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin a Charreg Wen yn Rhondda Cynon Taf.

Mewn cyfres o gyfarfodydd ymgynghori anffurfiol bydd cyfle i’r cyhoedd siarad â thîm Trydan, holi cwestiynau a dysgu am gynlluniau dechreuol Clocaenog Dau. Gallant hefyd weld model digidol yn dangos sut y gallai’r cynllun edrych, a mynegi barn drwy lenwi ffurflen adborth.

Yn ogystal, bydd cyfle i ymateb ar-lein ar wefan Fferm Wynt Trydan Clocaenog Dau tan ddydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025.

Dyma fanylion y cyfarfodydd lle bydd cyfle i drafod y cynllun wyneb yn wyneb:

·      Dydd Mawrth 14 Hydref, Neuadd Bentref Nantglyn, L16 5PL, 1pm - 6:30pm

·      Dydd Gwener 17 Hydref, Ysgol Cerrigydrudion, LL21 9SW, 3:30pm - 7pm

·      Dydd Sadwrn 18 Hydref, Canolfan Cae Cymro, Clawddnewydd, LL15 2ND, 11am - 2:30pm

 

Os na allwch ddod  i un o’r cyfarfodydd yn bersonol, gallwch weld ein arddangosfa rithiol ar lein o Ddydd Mawrth 7 Hydref ymlaen.

Adam Dempsey yw rheolwr prosiect Fferm Wynt Clocaenog Dau. Mae’n pwysleisio y bydd casglu barn trigolion lleol yn rhan ganolog o waith datblygu’r cynllun.

Meddai: “Sylweddolwn bwysigrwydd ymateb i farn pobl yr ardal trwy gydol y broses o ddatblygu’r fferm wynt, ac yn arbennig rŵan wrth inni ddechrau’r gwaith dylunio.

“Gall pobl alw mewn i’r cyfarfodydd cyhoeddus heb drefnu ymlaen llaw. Maent yn gyfle pwysig inni siarad wyneb yn wyneb â phobl leol. 

“Drwy ymgysylltu a gweithio gyda chymunedau, mudiadau a sefydliadau lleol, rydwi’n ffyddiog y bydd y prosiect o les economaidd a chymdeithasol pendant i’r ardal hon, tra’n cyfrannu mewn ffordd gadarnhaol i Gymru, y ddynoliaeth, byd natur a’r blaned.”

I glywed am y datblygiadau diweddaraf, arwyddwch i dderbyn newyddlen Fferm Wynt Clocaenog Dau yn https://trydanclocaenogdau.cymru/cofrestru-ar-gyfer-y-cylchlythyr/

Ewch i’n arddangosfa rithiol anffurfiol i weld ein cynlluniau

Hoffem glywed eich barn a derbyn eich sylwadau am gynullun arfaethedig fferm wynt Clogaenog Dau.

Ewch i