Trydan yn ysbrydoli gweithlu'r dyfodol yn un o ddigwyddiadau gyrfaoedd i raddedigion mwyaf Cymru

Cyhoeddwyd 08/05/2026   |   Diweddaru Diwethaf 12/05/2026

Cafodd Trydan Gwyrdd Cymru gyfle i sgwrsio gyda dwsinau o fyfyrwyr a graddedigion am y cyfleoedd gyrfa gwych mae’r trawsnewidiad ynni adnewyddadwy yn ei gynnig, yn nigwyddiad GradCon Cymru, Wrecsam.

Ar agor i'r rhai sy'n astudio mewn prifysgolion a cholegau lleol, neu fyfyrwyr sy'n dychwelyd adref ar gyfer gwyliau'r gwanwyn, nod y digwyddiad oedd ysbrydoli pobl ifanc sy'n dymuno aros yng Nghymru i fyw a gweithio. 

Roedd Tŷ Pawb yng nghanol dinas Wrecsam yn le perffaith i ymgynnull gyda chynrychiolwyr nifer o sefydliadau blaenllaw Gogledd Cymru, i greu cysylltiadau allweddol rhwng cyflogwyr ac ymgeiswyr, a thrafod interniaethau, cynlluniau graddedigion, a chyfleoedd swyddi byw.

Roedd y diwrnod, a gynhaliwyd gan Darogan, hefyd yn foment i Owen Chennetier, Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Cymunedol Graddedig Trydan, ailymweld ag un o’i brofiadau gwaith cyntaf, gan iddo brofi interniaeth haf gyda Darogan tra’n astudio ym Mhrifysgol Bryste. Daeth y cyfle hwnnw yn wreiddiol o sgwrs gyda Darogan, ac aeth ymlaen i wneud ail interniaeth ar ôl cwblhau ei radd mewn hanes.

Fe wnaeth y profiad ymarferol hwnnw helpu Owen i sicrhau rôl barhaol gyda Trydan Gwyrdd Cymru. Dywedodd: "Mae mynychu’r GradCon gyntaf yn Wrecsam wedi dod â digon o atgofion hapus yn ôl.

"Ar ôl bod mewn sefyllfa debyg fy hun, mae'n wych gallu sgwrsio â myfyrwyr a graddedigion.

"Gallaf uniaethu â'r cydbwysedd y mae'n rhaid iddyn nhw ei daro, gan ganolbwyntio ar fisoedd olaf eu graddau - gydag arholiadau a dyddiadau cau gwaith cwrs - a chael dealltwriaeth o'r hyn maen nhw ei eisiau ac sydd ei angen i roi mantais gystadleuol iddyn nhw ddod o hyd i waith.

"Mae hefyd yn wych bod yn enghraifft o rywun a elwodd o fynychu digwyddiadau o'r fath gan ei fod yn arddangos eu gwerth."

Fel datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, roedd aelodau Trydan yn gallu siarad am ystod eang o brosiectau posibl a chyfleoedd gwaith dilynol ledled Cymru.

Mae'r rhain yn cynnwys Fferm Wynt Clocaenog Dau, gyda safle arfaethedig y cynllun tua 8km i'r de-orllewin o Ruthun ac yn eistedd o fewn siroedd Sir Ddinbych a Bwrdeistref Sirol Conwy.

Dywedodd Dr Catrin Ellis Jones, Pennaeth Ymrwymiad Cyhoeddus Trydan: "Mae’n bleser sgwrsio â gweithlu'r dyfodol, yn israddedigion, yn raddedigion diweddar, neu’n ôl-raddedigion.

"Fe wnaethon ni drafod portffolio datblygu Trydan, a'r mathau o rolau sy'n gyrru esblygiad prosiect. Os bydd prosiectau Trydan yn mynd ymlaen i adeiladu a gweithredu, mae angen rolau gwahanol iawn o'r cam cynnar hwn. Mae’r rolau yma yn swyddi o ansawdd, sy'n wynebu'r dyfodol, gyda chyflogau cyfartalog yn y sector yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol a'r sector cyhoeddus. 

“Mae creu swyddi medrus gwerth uchel yn hanfodol ar gyfer twf economaidd Cymru, gan helpu i atal ‘brain drain’ drwy gadw pobl ifanc yma a'u denu yn ôl i'r wlad.

"Roedd nifer o'n cyflenwyr presennol, ac o bosibl rhai darpar, yn bresennol, ac felly roeddem hefyd yn gallu cyfeirio pobl tuag at gwmnïau sy'n weithredol yn y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy.

"Rydym yn gobeithio bod GradCon wedi adnewyddu hyder mynychwyr y gallai dyfodol gwych, mewn sectorau twf fel ynni adnewyddadwy, ddisgwyl iddynt yn ôl adref yng Nghymru."

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Fferm Wynt Clocaenog Dau, ewch i: https://trydanclocaenogdau.cymru/sut-i-gymryd-rhan/