Cyhoeddwyd 27/10/2025 | Diweddaru Diwethaf 28/10/2025
Mae’r cyhoedd wedi cael cyfle i fynegi barn am gynllun arfaethedig Fferm Wynt Clocaenog Dau, mewn cyfarfodydd a drefnwyd gan Trydan Gwyrdd Cymru (Trydan).
Fel yr unig gwmni ynni adnewyddadwy o eiddo Llywodraeth Cymru, nod cwmni Trydan yw cynhyrchu pŵer diogel a glân gan sicrhau fod manteision prosiectau o’r fath yn aros yng Nghymru er lles pobl Cymru.
Yn y tri chyfarfod ymgynghori, roedd tîm Trydan wrth law i ateb cwestiynau, casglu barn ac egluro’r cynlluniau dechreuol ar gyfer y cynllun 22 tyrbin a gyhoeddwyd yn ystod yr haf.
Roedd model digidol o’r datblygiad ar gael i’w archwilio ym mhob sesiwn, fel bod modd i drigolion lleol gael syniad o sut y byddai’r safle newydd yn edrych o fewn y tirlun, ochr yn ochr â’r nodweddion presennol.
Cynhaliwyd y cyfarfodydd galw mewn yng Nghanolfan Cae Cymro, Clawddnewydd a Thŷ’r Eglwys, Nantglyn yn Sir Ddinbych, ac yn Ysgol Cerrigydrudion yng Nghonwy.
Mae Adam Dempsey, Rheolwr Prosiect Fferm Wynt Clocaenog Dau, yn credu y bydd y sesiynau a gynhaliwyd o gymorth gwerthfawr iawn i’r gwaith o ddatblygu’r cynllun.
Meddai: “Rydym yn awyddus iawn i ddatblygu perthynas agos â chymunedau lleol, ac roedd hwn yn gyfle gwych i gwrdd â’n gwahanol randdeiliaid i drafod amrywiaeth o bynciau.
“Daeth pobl leol, grwpiau cymunedol, cynrychiolwyr Aelodau Senedd ôl San Steffan a Senedd Cymru, cynghorwyr sir a chynghorwyr cymuned i’r cyfarfodydd. Bydd eu hadborth yn allweddol wrth inni ddod i ddeall sut i addasu ein cynigion.
“Roedd y sesiynau hefyd yn gyfle inni ateb cwestiynau a phwysleisio ein hymrwymiad parhaus i warchod a diogelu’r amgylchedd naturiol.”
Cafodd pobl ifanc gyfle i ddysgu am y cynigion ar gyfer y fferm wynt, gyda mwy nag ugain o ddisgyblion blynyddoedd pump a chwech o Ysgol Cerrigydrudion yn ymuno mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau difyr, rhyngweithiol.
O drafod y ffordd yr ydym yn defnyddio ynni yn ein bywyd bob dydd, i ganfod pa anifeiliaid sy’n byw yng Nghoedwig Clocaenog, roedd sesiwn y prynhawn yn ferw o brysurdeb.
Cafodd y plant gyfle i weld fideo fer am gynlluniau ynni glân cwmni Trydan a siawns i ryngweithio gyda model rhithiol o’r fferm wynt arfaethedig.
Cawsant gwis bywiog i brofi beth oeddent yn ei gofio am eu hymweliad, gyda’r ysgol a dau ddisgybl yn derbyn tocynnau llyfr o Siop Elfair i brynu deunydd darllen.
Meddai Dr Catrin Ellis Jones, Pennaeth Ymrwymiad Cyhoeddus Trydan Gwyrdd Cymru: “Roedd yn wych gweld cymaint o blant yn dysgu am bwysigrwydd a gwerth ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
“Roedd pawb wedi mwynhau’r sesiwn, gyda’r model rhithiol o gynllun Clocaenog Dau yn profi’n boblogaidd iawn ymysg yr ymwelwyr.”
I’r rhai na allent ddod yn bersonol i’r cyfarfodydd, mae Trydan wedi creu arddangosfa rithiol.
A gellir ymateb i’r rownd gyntaf o ymgynghori drwy lenwi ffurflen adborth ar lein tan Ddydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025.



