Cyhoeddwyd 13/07/2026 | Diweddaru Diwethaf 23/07/2026
Gyda Llywodraeth newydd yn ei le ac Aelodau’r Senedd (AS) yn setlo yn eu rholiau newydd, daeth cyfle i Trydan Gwyrdd Cymru fynd a dau gynrychiolydd newydd o’r Senedd i weld manteision ynni gwynt ar dir coediog yn y gogledd.
Mae Clocaenog Dau yn gynllun arfaethedig ar gyfer datblygiad ynni adnewyddol sy’n llenwi nifer o fylchau fferm wynt wreiddiol Clocaenog ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru yn siroedd Dinbych a Chonwy.
Mae’r gwaith dichonoldeb cychwynnol yn dangos y gallai Fferm Wynt Clocaenog Dau ddarparu hyd at 22 o dyrbinau gwynt modern ac effeithlon.
Sefydlwyd Trydan Gwyrdd Cymru fel corff i ddatblygu ynni adnewyddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn datgloi potensial ynni adnewyddol y wlad, gan sicrhau bod unrhyw fanteision o’r datblygiadau yma yn aros yng Nghymru.
Byddai'r prosiect yn gwneud cyfraniad pwysig at fynd i'r afael â newid hinsawdd trwy ddarparu hyd at 132 MW o drydan glân sy’n cyfateb i anghenion trydan blynyddol hyd at 117,500 o gartrefi arferol yng Nghymru.
Aelod o’r Senedd dros Fangor Conwy Môn, Elfed Williams a Becca Martin aelod etholedig Clwyd a groesawyd i weld coedwig Clocaenog i weld drostynt eu hunain y cynlluniau sydd ar y gweill.
Yn ôl Elfed Williams: “Dwi’n gyfarwydd iawn â’r ardal gan mod i’n gyn cynghorydd dros Ward gymdogol Clocaenog ac roedd hi’n braf cael clywed mwy am y datblygiad.
“Mae ynni adnewyddol yn hollbwysig i ni yng Nghymru wrth i’r galw am ynni barhau i godi a bod Cymru a’r Deyrnas Gyfunol yn colli gafael ar reoli cyflenwadau ynni ar draws y byd sydd yn ei dro yn effeithio ar filiau ynni trigolion.
“Mae datblygu prosiectau sy’n cadw’r buddion yn nwylo pobl Cymru yn werthfawr iawn i ni.
“Mae trafod yn gynnar gyda’r gymuned leol i ddylanwadu ar gynlluniau yn arferiad gwaith da gan Trydan Gwyrdd Cymru.
“Dwi’n edrych mlaen at glywed mwy am gynllun Clocaenog Dau wrth i bethau ddatblygu trwy’r camau nesaf.”
Cynhaliwyd tri ymgynghoriad cyhoeddus ym yn yhydref 2025, ac ers hynny mae’r gwaith o addasu’r cynllun yn sgil mewnbwn gan y gymuned leol a chynnal arolygon amgylcheddol ac adroddiad trosolwg wedi bod yn mynd rhagddo.
Bydd y gwaith cynllunio manwl yn digwydd cyn trafod ymhellach gyda’r cyhoedd wedi’r haf.
Mae diddordeb mawr wedi bod gan y cymunedau a sawl mudiad datblygu cymunedol lleol yn y buddion cymunedol ariannol gall ddod i’r ardal yn sgil datblygiad Clocaenog Dau.
Dros y misoedd diwethaf, mae tîm Trydan wedi bod yn sgwrsio a chyfarfod â nifer o asiantaethau sy’n gweinyddu prosiectau tebyg a chywain barn leol am y ffordd orau o ddyrannu’r arian, petai’r cynllun yn derbyn cadarnhad ar gyfer ei ddatblygu.
Yn ôl Dr Catrin Ellis Jones o Trydan Gwyrdd Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i’n hysbysu am eu huchelgais, eu hanghenion a’u buddiannau ar gyfer yr ardal.
“Dim ond trwy ddeall a chydweithio y gallwn gyflawni prosiect gaiff yr effaith mwyaf cadarnhaol ar yr ardal leol, y rhanbarth, a’r trigolion. Rydym yn annog ac yn croesawu mwy o’r cydweithio hwn wrth i’r prosiect esblygu.”
Cadwch lygad ar wefan Trydan Gwyrdd Cymru www.trydangwyrddcymru.cymru am ddatblygiadau diweddaraf Clocaenog Dau a’r prosiectau eraill ledled Cymru sef Fferm Wynt Glyn Cothi ym Mrechfa, Sir Caerfyrddin; Carreg Wen yng Nghymoedd y De a datblygiad Fferm Solar yn Larnog, Bro Morgannwg.