Bwrlwm sirol gyda chriw’r ffermwyr ifanc

Cyhoeddwyd 24/11/2026   |   Diweddaru Diwethaf 24/11/2026

Does dim yn well ar noson oer o aeaf na glanio yng ngwres bwrlwm a brwdfrydedd pobl ifanc. Dyna’r profiad y cawsom ni, fel cwmni, wrth fynd draw i Ddinbych i gyfarfod ag aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Clwyd wrth iddyn nhw roi’r sglein olaf ar eu perfformiad côr pedwar llais ar gyfer Eisteddfod Cymru. 

Efallai eich bod yn methu deall pam bod cwmni ynni adnewyddol sy’n berchen i Lywodraeth Cymru, Trydan Gwyrdd Cymru, mewn cyswllt â’r ffermwyr ifanc? Wel, cododd cyfle i ni noddi digwyddiad diwylliannol yng nghalendr Clybiau Ffermwyr Ifanc Clwyd, felly dyma fachu ar y cyfle i gefnogi pobl ifanc yng nghymuned wledig gogledd Cymru. 

“Rydyn ni wastad yn awyddus i glywed lleisiau pobl ifanc fel cwmni,” eglura Dr. Catrin Ellis Jones, Pennaeth Ymrwymiad Cyhoeddus Trydan sy’n wreiddiol o ardal Bangor. “Wedi’r cyfan, nhw yw dyfodol ein cymunedau, ein gweithlu a’n cenedl. 

“Roedd cael cefnogi’r sir wrth baratoi at yr Eisteddfod trwy gynnig nawdd i’r côr sirol dalu am logi neuaddau pentref wrth ymarfer cyn yr Eisteddfod Sir ac yna Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, yn fraint i ni. Mae cynnig cyfleoedd i bobl ifanc yng nghefn gwlad gan hybu talent gerddorol, cymdeithasu gyda’u cyfoedion a chefnogi ei gilydd, yn hollbwysig.”

Yr hyn oedd yn braf wrth wrando ar y côr oedd bod aelodau Clybiau Llannefydd, Llansannan, Nantglyn, Uwchaled a Chwitffordd i gyd wedi uno i gyd-ganu er mai cystadlu yn erbyn ei gilydd y maen nhw’n arferol yn yr Eisteddfod Sir. 

Pontrhydfendigaid oedd y lleoliad i’r Côr a’r Llefarwyr, yr adran arall i Trydan ei noddi yn yr Eisteddfod Sir. Parti Llefaru Nantglyn aeth a hi yng Nghlwyd, felly roeddant hwythau yn cynrychioli’r sir draw yn yr Eisteddfod fawr yng Ngheredigion. 

Wrth eistedd yn gwrando ar leisiau melfedaidd y baswyr, tenoriaid, altos a’r sopranos yn canu yn eu hymarfer yn Ninbych fe atgyfnerthwyd y pwysigrwydd i ni glywed lleisiau amrywiol ein hieuenctid. 

Ein cenhadaeth fel cwmni yw datgloi potensial ynni adnewyddadwy Cymru gan gyflwyno buddion i’n cymunedau, i’n hamgylchedd ac i’n heconomi leol. Wrth ddatblygu fferm wynt Clocaenog Dau, mae’r gwaith o fuddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol yn bwysicach i ni, fel cenedl, nac erioed o’r blaen. Mae uchelgais pobl ifanc ar gyfer y dyfodol, yn ogystal a’u gallu i wrando a chydweithio â’i gilydd yn esiamply gallwn ni gyd, fel cymdeithas, ei dilyn. 

Llongyfarchiadau mawr i Gôr CFfI Clwyd ar gyrraedd y tri uchaf yng Ngheredigion, gan ddod yn drydydd yn genedlaethol! A phob clod i bawb fu’n cystadlu ac a gymrodd rhan yn Eisteddfod CFfI Cymru 2026. Waeth beth oedd y canlyniadau, bydd yr hwyl, y cymdeithasu, y cydweithio a’r perfformio yn sicr o fod yn brofiad gwerthfawr i holl aelodau’r mudiad pwysig hwn.