Cyhoeddwyd 07/07/2025 | Diweddaru Diwethaf 28/10/2025
“Pan ges i’r cyfle i ymuno â thîm Fferm Wynt Coedwig Clocaenog gyntaf, ron i’n teimlo’n ffodus iawn, gan fod prinder swyddi yn yr ardal.”
Dyna eiriau is-asiant Peirianwyr Sifil Jones Bros, Hari Evans, wrth iddo drafod effaith y mae gweithio ar ffermydd gwynt ar y tir, gwerth miliynau o bunnoedd, wedi ei chael ar ei yrfa.
Cafodd Hari, 25, y cyfle i ddatblygu ei wybodaeth dechnegol a’i arbenigedd wrth weithio ar Fferm Wynt Clocaenog. Gan ei fod yn byw cwta pum milltir o’r safle 27 tyrbin, mae’n cofio sut brofiad oedd cael gweithioar y prosiect.
Dywedodd: “Roedd dod o hyd i waith yn lleol yn heriol ar y pryd, felly roedd cael fy nghyflogi, nid yn unig gyda Jones Bros, ond ar ddatblygiad mawr mor agos at adref yn wych.
“Mae’r cynllun, a rhai tebyg iddo, yn gwneud gwahaniaeth enfawr wrth wella’r cyfleoedd gwaith sydd ar gael i drigolion fel fi mewn cymunedau gwledig.
“Mi ddechreuais fel peiriannydd prosiect iau ochr yn ochr â 20 i 25 o staff eraill, a dysgais gymaint, gan gynnwys pwysigrwydd cynnal mesurau ecolegol i sicrhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr da.
“Roedd hyn yn golygu atal dŵr llygredd rhag rhedeg i’r amgylchedd naturiol gerllaw a sefydlu’r safle i helpu i ddal neu hidlo llygredd posib, gan amddiffyn ansawdd dŵr a chynefinoedd cyfagos.”
Ar ôl ymuno â’r cwmni yn Rhuthun yn 2017 fel prentis uwch, un o brosiectau cyntaf Hari oedd Fferm Wynt Brenig, sydd â 16 tyrbin.
Gan siarad am fanteision ffermydd gwynt ar y tir o ran ennill sgiliau craidd y diwydiant, dywedodd: “O gynnal gwaith ecolegol i dywallt sylfeini tyrbinau, mae cymaint o wahanol elfennau i’r gwaith.
“Fel ma rydych chi’n dysgu ystod o sgiliau y gallwch eu trosglwyddo i nifer o gynlluniau, sy’n eich rhoi mewn sefyllfa dda i’r dyfodol.
“Dwi wedi gweld peirianwyr dan hyfforddiant yn symud ymlaen i swyddi uwch, fel rheolwyr contractau, ac mae llawer o rai eraill wedi adeiladu gyrfaoedd hirdymor mewn ynni adnewyddol, diolch i gyfleoedd fel hyn.
“A chyda rolau’n amrywio o gynllunwyr i dechnegwyr, mae rhywbeth at ddant pawb.”