Ffurflen adborth

Ymgynghoriad anstatudol

 Hoffem glywed eich barn am ein cynigion ar gyfer Fferm Wynt Clocaenog Dau ar dir 8km i’r de orllewin o Rhuthun.

Rydym yn cynnal ymgynghoriad anstatudol i ganfod barn pobl leol am y prosiect a’r buddion posibl i’r gymuned leol ac i Gymru.

Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar Ddydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025.

Datganiad Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

How will Trydan Gwyrdd Cymru use the information we collect about you?

Pa ddefnydd fydd Trydan Gwyrdd Cymru yn ei wneud o’r wybodaeth a gasglwn oddi wrthoch?

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol fel rhan o’r ymgynghoriad hwn ar gyfer ein pwrpasau busnes dilys yn unig, yn cynnwys:

• Dadansoddi eich adborth i’r ymgynghoriad
• Cynhyrchu adroddiad ymgynghori ar sail ein dadansoddiad o’r atebion a dderbyniwyd (ni fydd modd adnabod cyfranwyr unigol yn yr Adroddiad)
• Ysgrifennu atoch i’ch diweddaru am ganlyniadau’r ymgynghoriad a datblygiadau eraill os ydych wedi dewis derbyn y wybodaeth honno
• Cadw cofnod cyfredol o’n cysylltiad gydag unigolion a sefydliadau

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a rowch ar y ffurflen hon yn cael ei thrin a’i defnyddio gan y canlynol (neu eu roi ar gael iddynt) i bwrpas cofnodi, dadansoddi neu adrodd ar yr adborth a gawsom:

• Trydan Gwyrdd Cymru
• Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW)
• Ymgynghorwyr sy’n gweithio ar brosiect Clocaenog Dau
• Ein cynghorwyr cyfreithiol

Pa hawliau sydd gennyf dros fy nata personol?

Yn unol â thelerau GDPR y Deyrnas Unedig, mae gennych rai hawliau mewn perthynas â’r modd y bydd eich data personol yn cael ei gadw a’i ddefnyddio gan Trydan Gwyrdd Cymru.

I wybod mwy am y modd y mae Trydan Gwyrdd Cymru yn prosesu data personol, a’ch hawliau, darllenwch y datganiad preifatrwydd ar ein gwefan www.trydangwyrddcymru.wales/privacy-policy os gwelwch yn dda.